04/06/2025                                                                            
                                    
                                    
                                                                        
                                        If you're breeding dogs as a business, there is a range of legislation you must comply with. One piece of legislation is the Consumer Contracts (Information, Cancellation and Additional Charges) Regulations 2013.
If you agree a contract in a consumer’s home or away from your business premises you must provide a cancellation notice. It is a criminal offence not to supply a cancellation notice in this situation. 
A cancellation notice period is 14 days and can be provided either by e-mail or paper copy. The 14 days begin the day after the day on which the dog comes into the physical possession of the consumer. It is important to note that if you do not provide the cancellation notice when agreeing a contract in a consumer’s home, as well as it being a criminal offence, the contract could be 
unenforceable; meaning the consumer may not have to pay. 
You must also provide a 14 day cancellation notice if you negotiate and agree a contract (sale) with a consumer via an “organised” means of distance communication, e.g. by phone, post or online. This provision may apply when you take a deposit via the telephone or e-mail for a puppy advertised on your web site, even if the balance is paid face-to-face. However, the contract must involve an organised scheme for selling dogs. A “one off” sale 
of a puppy via the telephone does not constitute an organised scheme for selling dogs. 
Where a cancellation notice is required, it must be provided in the prescribed format, and you may want to provide a model cancellation form. However, the customer is not obliged to use the cancellation form you provide, but must cancel in writing, either by posting, hand delivering or emailing their intention to cancel. 
🐶🐾🐶
Os ydych yn bridio cŵn fel busnes, mae yna ystod o ddeddfwriaeth y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hwy. Un darn o ddeddfwriaeth yw Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013.
Os ydych yn cytuno ar gontract yng nghartref defnyddiwr neu oddi ar eich safle busnes, mae'n rhaid ichi ddarparu hysbysiad canslo. Mae'n drosedd peidio â darparu hysbysiad canslo yn y sefyllfa hon.
14 diwrnod yw cyfnod yr hysbysiad canslo a gellir ei gyflwyno naill ai drwy e-bost neu gopi papur. Mae'r 14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daw'r ci i feddiant corfforol y defnyddiwr. 
Mae'n bwysig nodi os nad ydych yn rhoi'r hysbysiad canslo wrth gytuno ar gontract yng nghartref defnyddiwr, yn ogystal â bod yn drosedd, gallai'r contract fod yn anorfodadwy; gan olygu efallai na fyddai'n rhaid i'r defnyddiwr dalu.
Yn ogystal, mae'n rhaid ichi ddarparu hysbysiad canslo 14 diwrnod os ydych yn trafod ac yn cytuno ar gontract (gwerthiant) gyda defnyddiwr drwy ddull "wedi'i drefnu" o gyfathrebu o bell e.e. dros y ffôn, post neu ar-lein. Gallai hwn fod yn berthnasol wrth gymryd blaendal dros y ffôn neu ar e-bost am gi bach sydd wedi'i hysbysebu ar eich gwefan, hyd yn oed os yw'r balans wedi'i dalu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r contract gynnwys cynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu cŵn. Nid yw gwerthu ci bach
"unwaith yn unig" dros y ffôn yn gynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu cŵn.
Lle mae angen hysbysiad canslo, mae'n rhaid ei ddarparu mewn fformat penodedig ac mae'n bosibl yr hoffech ddarparu ffurflen ganslo enghreifftiol (gweler tudalen 5). Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd ar y cwsmer i ddefnyddio'r ffurflen ganslo rydych yn ei
darparu ond mae'n rhaid i'r cwsmer ganslo yn ysgrifenedig un ai drwy'r post, dosbarthu â llaw neu drwy e-bostio ei fwriad i ganslo.