
30/06/2025
Last week, we had the absolute privilege of taking part in the Set for Success Empowerment Event at the Swansea.com Stadium 💚
Run by the brilliant team at Youth Sport Trust, and supported by the Wimbledon Foundation FMD and Barclays UK, the programme helps young people who may be at risk of not achieving their full potential – giving them confidence, aspiration, and skills to dream big.
We were invited to be part of their careers carousel, where young people got to meet real professionals and hear about our journeys into work – the good bits and the challenges! Kathryn, our Marketing & Events Manager, proudly shared her story alongside reps from the Royal Navy, RAF, Castell Howell, and Barclays.
Over four mini sessions, students learned that career paths don’t always go in a straight line – and that your future can be shaped by transferable skills, a curious mindset, and opportunities that push you out of your comfort zone.
We were so impressed by the young people taking part – their enthusiasm, confidence, and creativity were amazing. What a brilliant initiative! 👏
For more about the Set for Success programme: www.wimbledonsetforsuccess.org
Wythnos diwethaf, cawsom y fraint enfawr o gymryd rhan yn Ddigwyddiad Grymuso 'Set for Success' yn Stadiwm Swansea.com 💚
Dan arweiniad y tîm gwych yn Youth Sport Trust, gyda chefnogaeth gan Sefydliad Wimbledon a Barclays, mae’r rhaglen yma’n cefnogi pobl ifanc sydd efallai mewn perygl o beidio â chyflawni eu potensial llawn – gan roi hyder, uchelgais a sgiliau iddyn nhw freuddwydio’n fawr.
Fe gawsom ein gwahodd i fod yn rhan o gylch gyrfaoedd lle gallai’r bobl ifanc gyfarfod gweithwyr proffesiynol go iawn a chlywed am eu taith i’r byd gwaith – gan gynnwys y llwyddiannau a’r heriau! Roedd Kathryn, ein Rheolwr Marchnata a Digwyddiadau, yn falch o rannu ei stori ochr yn ochr â chynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog, RAF, Castell Howell, a Barclays.
Dros bedwar sesiwn fer, cafodd y myfyrwyr ddysgu nad yw llwybrau gyrfa bob amser yn syth – a bod modd siapio’ch dyfodol gyda sgiliau trosglwyddadwy, agwedd chwilfrydig, a chyfleoedd sy’n eich gwthio allan o’ch parth cysur.
Roedden ni wedi ein synnu gan angerdd, hyder a chreadigrwydd y bobl ifanc. Menter arbennig iawn 👏
I ddysgu mwy am y rhaglen 'Set for Success': www.wimbledonsetforsuccess.org