Please scroll down for English
Mae Gelert Behaviour Training yn gwmni annibynnol sy'n cynnig cefnogaeth i anifeiliaid a'u rhoddwyr gofal gyda heriau ymddygiadol, emosiynol, corfforol ac oedran yn ogystal â chanllawiau maethol sy'n benodol i rywogaethau. Rydym yn eich dysgu i hyfforddi drwy ddefnyddio dulliau gwyddonol modern sy’n garedig i’ch ci, yn hwyl i chi a’ch ci ac yn effeithiol. Mae gennyn
ni ymagwedd holistig at les cyffredinol eich ci a chewch help gennym i wneud y dewisiadau gorau posibl ar ran eich ci anwes i hybu ei iechyd. We teach you to train using modern scientific methods which are kind to your pet, fun for you AND your pet and are effective. We take an holistic approach to your pet’s overall wellbeing and help you to make the best choices you can on behalf of your pet to promote their health. Rydym yn cynnig ymgynghoriadau un-i-un yn bersonol neu ar-lein i fynd i’r afael ag ymddygiad problemus, gan lunio cynllun rheoli i ddechrau i’ch cadw i gyd yn ddiogel tra byddwch chi a’ch ci yn dysgu. Weithiau, mae hyn yn golygu diogel rhag niwed, ond yn amlach na hynny, diogel rhag dysgu pethau a allai greu problem i chi neu’ch ci yn nes ymlaen. Nesaf, byddwn yn llunio cynllun ar gyfer y dyfodol a’ch helpu i’w roi ar waith drwy ddysgu’r sgiliau unigol amrywiol y bydd arnoch chi a’ch ci eu hangen i gyd-fyw’n hapus ac yn iach. Rydym yn cynnig hyfforddiant unigol gyda’ch ci ar ein safle ni, neu yn eu hamgylchedd arferol (gallai hynny olygu’ch cartref chi neu allan am dro, gan ddibynnu pa ymddygiad rydyn ni’n ei hyfforddi). Mae gennym ni’r cyfleusterau i ymarfer sgiliau ym mhresenoldeb anifeiliaid eraill (cŵn fel arfer) ar bellter diogel sy’n gyfforddus i’ch ci. Erbyn hyn, rydym yn gallu cynnig hyfforddiant preswyl i chi a’ch ci gyda’ch gilydd hefyd. We offer one-to-one consultations in person or on line to address problem behaviours, initially forming a management plan to keep you all safe whilst you and your pet are learning. Sometimes, this means safe from harm, but more often, safe from learning things which may later be a problem to either you or your pet. Next we make a plan for the future which we then help you to implement by teaching the various individual skills you and your pet need to coexist happily and healthily. We offer individual training with your pet at our premises, or in their normal environment (it could be at your home or on a walk, depending on what behaviours we are training). We have the facilities to practise skills in the presence of other animals (usually dogs) safely at a distance your dog is comfortable with. We can also now offer residential training for you and your dog together.