Croeso i chi a'ch ci ddod am dro i'n cae preifat ger tref Caerfyrddin.
£3.50 per 30 mins or £6 per hour - special introductory offer!! Welcome to our dog playing field where you will be given exclusive use of our field on the outskirts of Carmarthen - a perfect spot for you and your dog to relax and enjoy without interruptions. You can bring up to six dogs at one time with any number of owners. We
are 2 brothers aged 15 and 17 and have persuaded our parents to let us set up this little business venture. We love dogs and can't wait to meet some of your furry friends! We are planning to put any income generated towards funding university next year, and also to expand our growing collection of musical instruments. If you run into any problems please let us know and we'll do our very best to sort it out for you and your pooch. TERMS & CONDITIONS:
By booking an appointment you are agreeing to the terms and conditions. 24 hours notice for cancellations(full refund provided).Bookings must be made 3 hours in advance. Shortly after booking you will be sent a link via messenger for payment via Paypal. Once payment is received we will send further instructions eg parking. (You can leave cash in our post box if you prefer.)Any problems please ring 07958087987 or 07727 027857. Owners MUST clean after their dogs (bins provided). We regret that we cannot allow entry for dogs that are registered under the dangerous dogs act. Please ensure that the field is empty before you enter and keep your dog on the lead and away from other users until the gate is closed behind you. We kindly ask you to vacate and secure the field by the end of your appointment time in readiness for the next users. The field can be muddy after rain so please ensure you wear appropriate clothing (wellies recommended!). Beware of occasional potholes! The field is secured by a fence, and whilst every effort has been made to ensure the perimeter is secure, we cannot guarantee that a determined dog could not escape. The field is used at the owners risk. Public liability insurance is provided. We reserve the right to refuse entry and to shut the field at short notice (refunds would be provided).
🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕🐕
🏴
Croeso i G*e Cŵn Caerfyrddin ar gyrion y dre, lle cewch chi ddefnydd preifat o'n cae - man delfrydol i chi a'ch ci ymlacio a mwynhau heb unrhyw ymyrraeth. Gall hyd at 6 chi chwarae ar un tro gyda unrhyw nifer o berchnogion. Dau frawd y'n ni, 15 a 17 mlwydd oed. Ry'n ni yn dwlu ar gŵn, ac mae ein rhieni wedi rhoi caniatad i ni sefydlu'r fenter fach yma yn ein cae. Ry'n ni yn edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod chi a'ch ffrindiau blewog! Bydd unrhyw incwm yn mynd tuag at gostau prifysgol flwyddyn nesa, ac i adeiladu ar ein casgliad o offerynnau cerdd. Dewch i siarad â ni os oes unrhyw broblemau yn codi ac fe wnewn ni ein gorau glas i helpu. Diolch am gefnogi'r fenter! TELERAU AC AMODAU:
Wrth drefnu apwyntiad rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau isod. Bydd angen bwcio 3 awr cyn yr apwyntiad ac mae angen 24 awr o rybudd ar gyfer canslo (ad-daliad llawn). Yn fuan ar ôl bwcio byddwn yn danfon linc trwy messenger er mwyn talu (Paypal), wedyn byddwn yn danfon trefnadau parcio ayyb. (Os hoffech dalu a***n parod, mae croeso i chi wneud hynny ar y diwrnod).Unrhyw broblem, cysylltwch â 07958087987 neu 07727 027857. RHAID i bob perchennog glirio baw'r ci ar eu hôl (bin yn y cae). Gofalwch bod y cae yn wag cyn agor y glwyd i fynd mewn a chadwch eich ci ar dennyn ac i ffwrdd o unrhyw gŵn eraill nes bod y cae yn glir a'r glwyd ar gau. Gofynnwn yn garedig i chi adael y cae a chloi y glwyd erbyn diwedd eich slot, yn barod i'r person nesaf. Mae'r cae yn gallu bod yn fwdlyd felly gwisgwch ddillad addas (esgidiau glaw!). Cymerwch ofal o ambell dwll yn y ddaear. Mae ffens ddiogel yn amgylchynu'r cae, serch hynny ni allwn gynnig sicrwydd pendant na fydd ci yn dianc os yn benderfynol - cyfrifoldeb y perchennog yw diogelwch tra'n defnyddio'r cae. Mae gennym ni yswriant atebolrwydd cyhoeddus. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad, ac i gau'r cau ar fyr rybudd (bydd ad-daliad yn dilyn).